#

Y Pwyllgor Deisebau | 9 Hydref 2018
 Petitions Committee | 9 October 2018
 ,Teitl: Dylai pob ysgol fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P05-834

Teitl y ddeiseb: Dylai pob ysgol fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg ac addysgu hanes Cymru.

Testun y ddeiseb: Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn deisebu'r Cynulliad Cenedlaethol a'r Gweinidog Addysg i bob ysgol yng Nghymru fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg er mwyn gwarchod iaith ein cyndadau. Gofynnwn hefyd i bob ysgol yng Nghymru addysgu hanes Cymru a hanes y bobl a gynorthwyodd i lunio'r wlad hon.

Mae'n warth nad yw'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg. Yn waeth fyth, mae ein hanes yn cael ei golli. Dim ond mewn ysgolion yn y Gogledd a'r Gorllewin, lle mae'r mwyafrif yn siarad Cymraeg, y caiff ein hanes ei warchod, hanes sydd wedi'i ysgrifennu yn yr iaith. Er mwyn diogelu'r rhain, rhaid inni wneud yn siŵr bod ein plant yn eu dysgu a bod yr iaith yn cael ei defnyddio bob dydd.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Ym mis Ebrill 2012, cytunodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd, ar gynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r ffaith bod 'safonau a chyrhaeddiad Cymraeg ail iaith yn is na phynciau eraill'.

Ym mis Gorffennaf 2012, sefydlodd y Gweinidog y Grŵp Adolygu Cymraeg Ail Iaith - i adolygu darpariaeth Cymraeg ail iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4. Roedd adroddiad y Grŵp, Un Iaith i Bawb - Adolygiad o Gymraeg Ail Iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 (2013) yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru adolygu'r rhaglen astudio yng Nghymru i gynnwys un continwwm dysgu ar gyfer y Gymraeg gyda disgwyliadau clir i ddisgyblion sy'n dysgu Cymraeg mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg, dwyieithog a chyfrwng Cymraeg. O ganlyniad, byddai elfen Cymraeg ail iaith y rhaglen astudio yng Nghymru yn cael ei dileu ynghyd â'r term Cymraeg ail iaith.

Ystyriwyd argymhellion y Grŵp Adolygu wedyn fel rhan o Adolygiad Annibynnol yr Athro Graham Donaldson o Drefniadau Cwricwlwm ac Asesu yng Nghymru.  Gwnaeth adroddiad yr Athro Donaldson, Dyfodol Llwyddiannus (Chwefror 2015), ddeg o argymhellion yn ymwneud â'r iaith Gymraeg yn y cwricwlwm. Cafodd yr holl argymhellion eu derbyn gan y Gweinidog, gan gynnwys yr argymhelliad y bydd y Gymraeg yn parhau i fod yn orfodol ym mhob ysgol hyd at 16 oed.

Ar 27 Mehefin 2018, rhoddodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran y continwwm Cymraeg.  Dywedodd:

Rydw i'n awyddus iawn i sicrhau nad ym ni’n aros tan bod y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno. Nid wyf i eisiau colli cenhedlaeth arall o blant sydd ddim yn cael y cyfle o gael addysg dda Cymraeg fel ail iaith. Felly, mae’n rhaid i ni wella’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd. Rŷch chi’n gallu cael 13 mlynedd o wersi Cymraeg a dod mas yn siarad bron â bod ychydig iawn

Dywedodd y Gweinidog hefyd ei bod wedi cynnal symposiwm yr wythnos flaenorol yn cynnwys arbenigwyr i drafod y materion. Roedd hefyd y cydnabod,

Un o’n problemau mwyaf, wrth gwrs, yw sicrhau bod digon o athrawon da gyda ni. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dau adroddiad ymchwil, Trosolwg o ymagweddau at gaffael ail iaith ac arferion addysgol (Chwefror 2018) ac Asesiad cyflym o’r dystiolaeth: Ymagweddau a dulliau addysgu ail iaith effeithiol.

Strategaeth Llywodraeth Cymru - Cymraeg 2050 - Miliwn o siaradwyr Cymraeg

Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw gweld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  Yn Cymraeg 2050 - miliwn o siaradwyr, mae'n nodi'r ddau brif ddull o gyflawni'r nod hwn: trosglwyddo'r Gymraeg o un genhedlaeth i'r nesaf; a datblygu a chynnal sgiliau trwy addysg a hyfforddiant.  Er mwyn cyflawni ei thargedau, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi'r 'newidiadau ar gyfer gweddnewid' canlynol. Mewn perthynas ag Addysg:

§    Gwneud cynnydd cyflym i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg y blynyddoedd cynnar i 150 yn fwy o grwpiau meithrin dros y degawd nesaf er mwyn hwyluso dilyniant i addysg cyfrwng Cymraeg.

§    Cynyddu’r gyfran o bob grŵp blwyddyn ysgol sy’n cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg o 22 y cant (sy’n seiliedig ar 7,700 o ddysgwyr saith oed yn 2015/16) i 30 y cant (tua 10,500 ym mhob grŵp blwyddyn) erbyn 2031, ac yna i 40 y cant (tua 14,000 ym mhob grŵp blwyddyn) erbyn 2050

§    Gweddnewid sut rydym yn addysgu Cymraeg i bob dysgwr fel y bod o leiaf 70 y cant o’r dysgwyr hynny’n gallu dweud erbyn 2050 eu bod yn gallu siarad Cymraeg erbyn iddynt adael yr ysgol.

§    Cynyddu nifer yr athrawon cynradd sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o 2,900 i 3,900 erbyn 2031 ac i 5,200 erbyn 2050; cynyddu nifer yr athrawon uwchradd sy'n gallu addysgu Cymraeg o 500 i 900 erbyn 2031 ac i 1,200 erbyn 2050; a chynyddu nifer yr athrawon uwchradd sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o 1,800 i 3,200 erbyn 2031 ac i 4,200 erbyn 2050.

§    Diwygio'r cynnig addysg a sgiliau ôl-16 cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i sicrhau bod gan bobl ifanc gyfle i barhau i ddatblygu sgiliau dwyieithog i gefnogi economi sy’n ffynnu.

Ystadegau

Yn 2007, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru arweiniad, Diffinio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Roedd hwn yn nodi categorïau a diffiniadau anstatudol o ysgolion yn ôl yr iaith a ddefnyddir fel cyfrwng dysgu a busnes arferol yr ysgol.

Mae categorïau gwahanol ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd.  Mae pum categori ar gyfer ysgolion cynradd a saith categori ar gyfer ysgolion uwchradd. At ddibenion ystadegol, caiff ysgolion eu categoreiddio yn ôl faint o Gymraeg neu Saesneg a ddefnyddir wrth addysgu. Yn fras, lle mae mwy o addysgu trwy'r Gymraeg, ystyrir bod yr ysgol yn ysgol cyfrwng Cymraeg.  Lle mai Saesneg yw'r brif iaith, ystyrir mai cyfrwng Saesneg yw’r ysgol.

Ym mis Ionawr 2018, roedd 404 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg; wyth ysgol ganol cyfrwng Cymraeg; a 47 o ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg.  Mae hyn yn 459 o gyfanswm o 1,521 o ysgolion a gynhelir.

Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg

Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i baratoi a chyflwyno Cynlluniau Strategol Addysg Gymraeg (WESP) i Lywodraeth Cymru i'w hystyried. Y Cynlluniau diweddaraf yn cwmpasu'r cyfnod 2017 i 2020.

Cynlluniau tair blynedd yw Cynlluniau Strategol Addysg Gymraeg sy'n cael eu hadolygu'n flynyddol, a rhaid iddynt nodi:

§    Cynigion yr awdurdod lleol sut y bydd yn gwella’r gwaith cynllunio o ran darparu addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal; safonau addysg cyfrwng Cymraeg a’r gwaith o addysgu Cymraeg yn yr ardal;

§    Targedau'r awdurdod lleol ar gyfer gwella’r gwaith cynllunio i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal ac ar gyfer gwella safonau'r addysg honno a'r gwaith o addysgu Cymraeg yn yr ardal;

§    Y cynnydd a wnaed i fodloni’r targedau a nodwyd yn y cynllun blaenorol neu'r cynllun diwygiedig blaenorol.

Mae asesiad yr awdurdod lleol o'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn ei ardal yn hanfodol i'r cynlluniau hyn, ynghyd â'r camau a gymerir i ddiwallu'r galw hwnnw.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

Ym mis Mai 2017, cyhoeddodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ei adroddiad ar ei Ymchwiliad i Strategaeth Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru.  Roedd hwn yn cynnwys argymhellion yn ymwneud â materion gweithlu (yr angen am athrawon ychwanegol a'u recriwtio a'u hyfforddi); blaenoriaethu cyllid ar gyfer y blynyddoedd cynnar; a hyfforddiant Cymraeg am ddim i rieni.

Y Pwyllgor Deisebau

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod deiseb P-05-799, Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth.

Mae'r Pwyllgor wedi clywed tystiolaeth lafar gan y Deisebydd, Elfed Wyn Jones a Dr Elin Jones, cadeirydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru a Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

 

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.